Cynhaliwyd Seminar Ansawdd Aer Blynyddol 2025 ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Roedd seminar eleni yn cynnwys cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru, a chyflwyniadau ar y canlynol: Marwolaethau plant oherwydd asthma; Ansawdd aer dan do mewn ysgolion; Defnyddio synwyryddion gronynnol cost isel er mwyn cymharu ansawdd aer awyr agored a dan do; Prosiect QUANT, Asesiad o synwyryddion yn y byd go iawn yn y DU; Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer ymhlith Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yng Nghymru.
Mae cyflwyniadau o'r seminar ar gael i'w lawrlwytho isod.