Mae nifer y safleoedd monitro awtomatig yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod hyn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o ansawdd aer ledled y wlad, mae'n gallu cymhlethu’r ymchwiliad i sut mae ansawdd aer wedi newid dros amser. Os yw ymchwiliadau o'r fath yn seiliedig ar yr holl ddata sydd ar gael, gall anghysondeb a thueddiadau ffug ymddangos oherwydd newidiadau yng nghyfansoddiad y rhwydwaith. Yma, mae’r ymchwiliad i newidiadau wedi bod yn seiliedig ar is-setiau o safleoedd hirdymor yn hytrach nag ar bob safle yn y rhwydwaith. Dylai hyn arwain at asesiad mwy cadarn.
Nitrogen Deuocsid
Yng Nghymru (a gweddill y DU), y gwerth terfyn y rhagorir arno fwyaf yw'r crynodiad nitrogen deuocsid cymedrig blynyddol (40 μg m-3). Mae'r ffigur isod yn dangos sut mae crynodiadau nitrogen deuocsid cymedrig blynyddol wedi amrywio gydag amser.
Cynrychiolir safleoedd cefndir trefol gan y safle hynaf o'r math hwn (Canol Caerdydd) o 1992, a chymedr yr holl safleoedd hirdymor cefndir trefol. Ar safleoedd cefndir trefol, gwelwyd gostyngiad cyson mewn crynodiadau NO2 ers 1997. O gymharu â safleoedd traffig trefol, safleoedd cefndir trefol oedd â’r crynodiad cymedrig blynyddol isaf o NO2 ar gofnod yn 2024, sef 11.6 μg m-3. Mae hyn yn dangos bod cyfyngiadau COVID-19 wedi cael llai o ddylanwad ar y safleoedd hyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd eu pellter sylweddol oddi wrth brif ffyrdd a llai o gysylltiad ag allyriadau cerbydau.
Cynrychiolir safleoedd monitro traffig trefol, a ddiffinnir fel y rhai sydd wedi'u lleoli o fewn 10 metr i brif ffordd, gan y safle ymyl ffordd hynaf (Ymyl Ffordd Treforys Abertawe) sydd ar waith ers 2001 a chymedr yr holl safleoedd traffig trefol hirdymor.
Mae crynodiad cymedrig blynyddol NO2 ar safleoedd traffig trefol Cymru wedi dangos gostyngiad cyson o 33.8 μg m-3 yn 2008 i 19.4 μg m-3 yn 2024. Yn nodedig, yn 2020 cafwyd y ffigur isaf erioed mewn crynodiadau NO2 cymedrig blynyddol a briodolir i raddau helaeth i'r gostyngiad mewn traffig cerbydau o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19. Yn dilyn hyn yn 2021, bu cynnydd nodedig mewn crynodiadau cymedrig blynyddol, sy'n cyfateb i lacio'r cyfyngiadau yn raddol.

Deunydd Gronynnol
Mae'r ffigur isod yn dangos sut mae crynodiadau cymedrig blynyddol o ronynnau mân, PM10, wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar safleoedd traffig trefol. Mae hyn oherwydd yr ystod amrywiol o ffynonellau sy'n cyfrannu at ddeunydd gronynnol, y mae allyriadau cerbydau wedi'u lleihau’n fwyaf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae crynodiadau safleoedd cefndir trefol wedi bod yn sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cynrychiolir y crynodiadau cymedrig blynyddol o PM10 mewn safleoedd cefndir trefol gan y safle hynaf o'r math hwn (Canol Caerdydd) a'r holl safleoedd hirdymor ar gyfartaledd. Cynrychiolir crynodiadau safleoedd traffig trefol gan y safle PM10 hynaf o'r math hwn, Wrecsam, a chymedr yr holl safleoedd hirdymor.

PM2.5
Mae safleoedd PM2.5 trefol yn y ffigur isod yn cael eu cynrychioli gan gymedr safleoedd cefndir trefol hirsefydlog. Yn gyffredinol, nid yw'r crynodiadau cyfartalog blynyddol o PM2.5 wedi dangos fawr o amrywiad ers dechrau cofnodi yn 2008, gan aros bron yn ddigyfnewid ers 2020.
Osôn
Oherwydd y berthynas ffotocemegol gwrthdro rhwng O3 troposfferig ac NOx (lle mae NOx yn uchel, mae O3 yn isel, ac i'r gwrthwyneb), mae crynodiadau O3 yn tueddu i fod ar eu huchaf mewn lleoliadau gwledig. Gall crynodiadau osôn amrywio'n sylweddol rhwng blynyddoedd oherwydd yr amrywioldeb rhyng-flynyddol mewn meteoroleg. Disgwylir rhywfaint o amrywiad o flwyddyn i flwyddyn oherwydd amrywiadau yn yr achosion o dywydd poeth yn yr haf sy'n gysylltiedig â chrynodiadau O3 uchel. Mae crynodiadau osôn yn tueddu i fod ar eu huchaf mewn lleoliadau gwledig.
Mae'r graff isod yn dangos crynodiadau O3 cymedrig blynyddol yn Aston Hill, y safle monitro gwledig hynaf, safle trefol hirdymor Canol Caerdydd, a hefyd cymedr yr holl safleoedd gwledig hirdymor. Dros y blynyddoedd, mae tuedd gyffredinol ar i fyny mewn crynodiadau O3 gwledig yn amlwg. Cofnodwyd y crynodiadau osôn gwledig cymedrig blynyddol uchaf yn 2006, sy'n cyd-fynd â’r don wres fwyaf erioed yn Ewrop. Yn 2024, y crynodiad O3 blynyddol cyfartalog oedd 62.8 μg/m³ sy'n ostyngiad o'i gymharu â 2022 a 2023.
Mae safle monitro trefol Canol Caerdydd yn dangos cynnydd hirdymor mwy nodedig fyth yn yr osôn cymedrig blynyddol, sy'n adlewyrchu'r berthynas wrthdro rhwng O3 a NOx a ddisgrifir uchod. Gan fod crynodiadau NOx wedi gostwng mewn safleoedd trefol fel Canol Caerdydd, mae lefelau O3 wedi cynyddu.